Quentin Massys
Arlunydd Ffleminaidd yn oes peintio Iseldiraidd cynnar oedd Quentin Massys (tua 1465/66 – 1530). Ef oedd yr arlunydd pwysig cyntaf yn y mudiad a elwir 'Ysgol Antwerp'.Ganwyd yn Leuven, Brabant, ac yno fe gafodd ei hyfforddi'n of. Dywedir iddo ddewis astudio peintio wedi iddo ymserchu ym merch arlunydd. Aeth i Antwerp yn 1491 ac yno fe ymunodd ag urdd yr arlunwyr. Bu ei ddau fab, Jan a Cornelis, hefyd yn arlunwyr. Darparwyd gan Wikipedia
1