Asger Jorn
Arlunydd a cherflunydd o Ddaniad oedd Asger Jorn (3 Mawrth 1914 – 1 Mai 1973).Ganwyd Asger Oluf Jörgensen yn Vejrum, Denmarc, ac astudiasai ym Mharis dan arweiniad Fernand Léger. Cyd-sefydlodd y mudiad COBRA ym 1948 gyda Karel Appel, Constant, Corneille, Christian Dotremont, a Joseph Noiret. Dechreuodd gweithio â serameg ym 1953, ac yn y 1950au a'r 1960au roedd yn gynhyrchiol ym meysydd paentio, gludwaith, darlunio llyfrau, argraffiadau, arlunio, tapestrïau, murluniau, a cherfluniaeth.
Sefydlodd y Mudiad Rhyngwladol dros Bauhaus Dychmygiadol (MIBI), ac o hynny datblygodd yr ''Internationale situationniste'' ym 1957. O 1966 hyd ei farwolaeth, canolbwyntiodd Jorn ar baentio ag olew, gan deithio i Giwba, Lloegr, yr Alban, yr Unol Daleithiau, ac Asia. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
gan Lehmann-Brockhaus, Ursula
Cyhoeddwyd 2007
Awduron Eraill:
“...Jorn, Asger...”Cyhoeddwyd 2007
Inhaltsverzeichnis
Llyfr
4