Salvador Dalí
Arlunydd Catalanaidd oedd Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech, markies de Dalí de Pubol (11 Mai 1904 – 23 Ionawr 1989). Ganed Dalí yn Figueres, tref fechan ger troed y Pyreneau yng Nghatalonia. Cafodd hyfforddiant cynnar a datblygodd ddiddordeb mewn arlunwyrclasurol fel El Greco, Francisco Goya, Michelangelo a Diego Velázquez.Astudiodd ym Madrid o 1921 hyd 1924, a thynnodd sylw oherwydd ei ymddygiad anarferol. Yn 1929 aeth i Baris, lle daeth i adnabod Pablo Picasso ac André Breton a mabwysiadu arddull swrealaeth. Bu’n cydweithio a’r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel.
Efallai ei ddarlun mwyaf adnabyddus yw ''La persistència de la memòria, (Dyfalbarhad y Cof)'', 1931 sydd yn dangos clociau'n toddi mewn tirwedd afreal.
Yn 1940 aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, lle bu am 25 mlynedd cyn dychwelyd i Sbaen. Ystyrir y cyfnod yma fel ei gyfnod “clasurol”. Bu farw yn Figueres ym 1989. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
Cyhoeddwyd 2007
Awduron Eraill:
“...Dalí, Salvador...”
Conference Proceeding
Llyfr